kywydd y vronfraith
1 Y kailog serchog i son
2 vronfraith dilediaith loewdon
3 deg loew iaith doe a glywais
4 dawn vodlon dan vedw i lais
5 ba ryw ddim a vai berach
6 blethiad i chwibaniad bach
7 pylgain i darllain dairllith
8 plu yw i gesail yn plith
9 pell i klywir ywch tiroedd
10 i lef oi lwyn ai loew floedd
11 proffwyd Riw praff awdur hoed
12 penkerdd gloew angerdd glyn goed
13 pob llais diwael yn ael nant
14 a gan ef oi gu nwyvant
15 pob kaniad mad mydr angerdd
16 pob kaink or organ pob kerdd
17 pw pob kwlm addfwyn er mwyn
merch
18 ymryson am orauserch
19 prygethwr a lliwiwr llen
20 per ewybr pur i awen
21 prydydd kerdd ovydd ddivai
22 prif yrddas prin y mas mai
23 adwaen ef oi vedw nwyvoed
24 awdur kerdd adar y koed
25 [486] adlais lonn o dlos lannerch
26 odlav a mesurav serch
27 edn diddan a gan ar gyll
28 ynglwysgoed angel esgyll
29 odid ydoedd i adar
30 paradwys kyfrwys ai kar
31 o dro iawn gof drwy angerdd
32 adrodd a ganodd o gerdd
Davydd ap gwilim ai kant